Methodistiaeth

Dysgeidiaeth ac athrawiaeth a rennir gan grŵp o enwadau Cristnogol Protestannaidd sydd â chysylltiadau hanesyddol rhyngddynt yw Methodistiaeth. Gellir olrhain hanes Methodistiaeth i'w darddiad yn athrawiaeth efengylaidd John Wesley. Dechreuodd yn yr 18g ym Mhrydain trwy weithredau cenhadol egnïol, a lledaenodd i sawl rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, yr Unol Daleithiau, a'r tu hwnt.

Yng Nghymru dechreuodd y Methodistiaid ymledu ar draws y wlad ganol y 18g, o'u gwreiddiau yn y de-orllewin a Brycheiniog, diolch yn bennaf i waith cenhadol Howel Harris a'i gylch.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in